Beth yw ystyr bywyd?

By Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Listen to a podcast, please open Podcast Republic app. Available on Google Play Store and Apple App Store.


Category: Philosophy

Open in Apple Podcasts


Open RSS feed


Open Website


Rate for this podcast

Subscribers: 0
Reviews: 0
Episodes: 6

Description

Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill  

Dyma bodlediad yn y Gymraeg sydd ychydig yn wahanol i’r arfer, a sydd - fel mae’r teitl yn ei awgrymu - yn mynd i’r afael â rhai o gwestiynau mawr bywyd. Ariennir y podlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chyflwynir y gyfres gan Dr Huw Williams, darllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn cynnal sgyrsiau bywiog a ffraeth â chyfeillion amrywiol, gan gynnwys arbenigwyr a rhai academyddion blaenllaw Cymraeg.

Rhagdybiaeth y gyfres yw bod pob un ohonom yn hel meddyliau ar faterion dwys sy’n rhan o fywyd pob dydd, ac mae trafod a myfyrio ar y themâu hyn yn beth iach a phwysig. Mae’r sgyrsiau yn cyflwyno’r trafodaethau drwy gyfrwng iaith bob dydd mewn ffordd hygyrch; dylai apelio at ddysgwyr y 6ed dosbarth, myfyrwyr prifysgol, ac oedolion eraill nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol o’r pynciau dan sylw.  Felly ymunwch â ni (a pharatowch hefyd am daith fach i Roswell ... )!

Cynhyrchir y gyfres, gyda cherddoriaeth wreiddiol, gan Osian Gwynedd.

Episode Date
Pennod 1 - Beth yw ystyr bywyd?
Feb 04, 2026
Pennod 2 - Pam crefydd?
Feb 04, 2026
Pennod 3 - Pam fod tlodi’n bodoli?
Feb 04, 2026
Pennod 4 - Pa angen sydd am wladwriaeth?
Feb 04, 2026
Pennod 5 - Pam fod hiliaeth yn bodoli?
Feb 04, 2026
Pennod 6 - A Oes Heddwch?
Feb 04, 2026